Croeso i Gylch Meithrin Tŷ’r Cymry! Rydym yn Gylch hapus a chroesawgar sydd wedi ei sefydlu ers 1987. Rydym yn cael ein harolygu gan Estyn, y CSSIW, a Chyngor Caerdydd ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Mudiad Meithrin.
Dyma ychydig o wybodaeth bellach am y Cylch:
Arweinydd – Bethan Trott
Dirprwy Arweinydd – Rhian Harry
Cynorthwywyr – Rosie Berry a Jessica Thomas
Person Cofrestredig – Lowri Bunford-Jones
Cyfarwyddwyr – Steffan Radsma a Lowri Bunford-Jones
Cyfeiriad y Cylch – 11 Gordon Rd, Y Rhath, Caerdydd CF24 3AJ
Rhif ffôn – 02920 497152 | Symudol : 07864 575297
Ebost – Ty’r Cymry
Cyfleusterau
Mae gan y Cylch gartref parhaol yn Nhy’r Cymry. Dim ond y Cylch sydd a defnydd o’r llawr gawelod a’r ardd, a’r Cylch sydd yn berchen ar yr holl adnoddau. Mae gennym ystafell fawr bwrpasol lle rydym yn ymgynull ar gyfer canu a stori a gwneud gweithgareddau, ystafell llai ar gyfer crefftau, bwyta ffrwyth ac ati, tŷ bach a chegin. Yn yr ardd mae amrwy o degannau pahaol – tŷ bach twt, llithren, ffram ddringo, pydew tywod, yn ogystal a beiciau, sgwteri ac yn y blaen. Rydym hefyd yn gwneud defnydd llawn o’r ardd wrth dyfu ffrwythau a llysiau
Parcio
Mae’r rhan fwyaf o barcio ar Gordon Rd wedi ei glustnodi ar gyfer preswylwyr yn unig. Fodd bynnag mae’r wardeniaid traffig yn ymwybodol bod rhieni yn gollwng eu plant wrth y cylch tua 9am ac yn eu casglu tua 12pm, a hyd yn hyn nid ydym wedi cael unrhyw drafferthion. Mae modd parcio hefyd ar Richmond Rd, a thrwy drefniant (e.e adeg ein cyngerdd Nadolig) ym maes parcio Capel y Crwys
Y Gymraeg
Cymraeg yw iaith Cylch Meithrin Tŷ’r Cymry. Ein nod yw sicrhau bod pob plentyn yn derbyn y cyfle gorau posib i ddysgu’r iaith wrth chwarae a chanu a mwynhau gyda ffrindiau. Rydym yn gofyn i chi fel rhieni i annog eich plentyn wrth sicrhau eu bod yn gwylio Cyw ac yn cael y cyfle i edrych ar lyfrau Cymraeg. Gallwn hefyd argymell gwahanol gyrsiau os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu’r iaith gyda’ch plentyn
Gwybodaeth Bellach
Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach mae croeso i chi gysylltu â ni yn y Cylch. Mae hefyd croeso mawr i chi a’ch plentyn ymweld â’r Cylch neu fynychu sesiwn flasu.