Annwyl Bawb,
KATHARINE:
Croeso nol i Katharine! Mae’n hyfryd i gael cwmni Katharine unwaith eto – roedd pawb wedi gweld ei heisiau.
TAXI:
Rydym wedi penderfynu treialu y defnydd o fws mini i hebrwng y plany i’r ysgol. Byddwn yn defnyddio cwni sydd wedi ei gofrestru gyda’r Sir i hebrwng plant bach i ysgolion lleol. Wrth gwrs bydd aelod o staff yn parhau i fynd gyda’r plant ar y daith i’r ysgol. Mae’r bws mni yn ddrutach na’r taxi ond fydd dim newid yn y gost i chi fel rhieni am weddill y tymor hwn. Cawn sgwrs bellach ynglyn a trefniadau mis Medi cyn diwedd y tymor.
YMESTYN EIN TYMHORAU:
Mae nawr gennym ddigon o enwau i agor am pythefnos cyntaf gwyliau’r haf. Mae’n oll bwysig ein bod yn cael cadarnhad cyn gynted a phosib o ba sesiynau y byddwch eu heisiau er mwyn i ni allu trefnu staff ar gyfer y pythefnos honno. Diolch yn fawr.
TAFWYL:
Ar hyn o bryd does dim digon o blant yn medru mynychu Tafwyl ar ddydd Sul Gorffennaf 3ydd i ni i gymryd rhan. Rydym yn teimlo y byddai angen oleiaf 10 plentyn i ganu, felly os na fydd mwy o ddiddordeb fyddwn ni ddim yn perfformio ar y dydd. Cofiwch fodd bynnag bod y rhan fwyaf o weithgareddau Tafwyl yn rhad ac am ddim a bod croeso mawr i bawb fynychu. Mae gennyn gyflenwad o raglenni Tafwyl yn Ty’r Cymry.
FFIOEDD:
Dylai pawb erbyn hyn fod wedi derbyn eu bil am y tymor hwn. Os oes unrhyw broblem neu gwestiwn cofiwch gysylltu gyda Lowri neu Steffan.
FFAIR HAF – Dydd Sadwrn Mehefin 18eg (10am-12pm)
Cynyrch lleol, te, coffi a chacennau, llyfrau a chardiau a digonedd i gadw’r plantos yn brysur. Croeso cynnes i bawb!
TRIP HAF – Dydd Mercher Gorffennnaf 6ed:
Unwaith eto eleni byddwn yn mynd i Ynys y Barri ar ein trip blynyddol. Bydd y Cylch ar gau ar y diwrnod hwn gan bydd yr holl staff ar y trip. Bydd angen i rieni ddod gyda eu plentyn ar y trip. Rhagor o fanylion i ddilyn.
NOSWEITHIAU RHIENI:
Cynhelir ein noson rieni ar nos Iau Gorffennaf 14eg. Bydd y staff ar gael o 4.00pm tan 7pm. Cewch gyfle i weld gwaith eich plant a derbyn eu hadroddiad. Bydd hefyd lluniaeth ysgafn.
Yn y cyfamser cofiwch bod croeso i rieni drafod unrhyw agwedd o waith y Cylch a datblygiad a lles eu plentyn gyda’r staff neu Lowri ar unrhyw adeg.
GWAITH I’R ADEILAD:
Dros yr haf rydym yn gobeithio newid y llawr yr ystafell fawr a gosod gwair ffug mewn rhan o’r ardd. Bydd y gwaith hwn yn siwr o wella’r ardaloedd hynny i’r plant.
Ebost:
Os gwelwch yn dda, wnewch chi sicrhau bod gennym gyfeiriad ebost ar eich cyfer.
Diolch yn fawr,
Lowri Bunford-Jones
Person Cofrestredig