TŶ’R CYMRY MEDI 2015

plant_mewn_cylchCroeso i Dymor yr Hydref yn Cylch Meithrin Tŷ’r Cymry. Fel y gwyddoch, roedd yr haf yn un pryur iawn wrth i ni baratoi at y gwaith o adnewyddu ac addasu yr adeilad. Mae’r lle yn edrych yn hyfryd erbyn hyn, a’r cyfan sydd ar ôl i’w wneud yw gosod yr arwydd newydd yn y ffenest. Newyddion mawr arall yw ein bod wedi cael llinell ffôn BT, ein rhif ffôn newydd yw 02920 497152, ond yn bwysicach fyth y mae gennym (ar ôl hir aros) Bandlydan – rydym wrth ein bodd!

Cofiwch ein bod nawr ar agor o 8.30am hyd 4.15pm. Mae gennym leoedd ar gael, felly os y gallwch ein hargymell i’ch ffrindiau byddwn yn hapus iawn i’w croeswi i’r Cylch.

Dyma ychydig o wybodaeth am weithgareddu’r Cylch dros y misoedd nesaf:

Bob prynhawn Mercher 1pm-3pm. TI A FI. Mae Ti a Fi yn addas i fabis a phlant hyd at 5 oed. Croeso mawr i bawb.

Medi 25ain 11am – Bore Coffi MacMillan. Cyfle gwych i ddod i adnabod rhieni eraill, mwynhau cacen a phaned, tra’n codi arian at elusen arbennig.

Hydref 23ain – Hwyl Calan Gaeaf yn y Cylch. Croeso i bob plentyn ddod mewn gwisg ffansi.

Hydref 26ain – HannerTymor

Tachwedd 14fed, 10-1pm – Ffair Gaeaf yn y Cylch. Cynnyrch cartref, crefftau , llyfrau, cacennau a phaned.

Rhagfyr 10eg – Taith i’r Sherman i weld Y Dywysoges a’r Bysen Fechan Fach. Pris y tocynnau yw £6.00 – a wnewch chi ddanfon eich arian i’r Cylch erbynMedi 21ain.

Dydd Mawrth Rhagfyr 15fed a Dydd Iau Rhagfyr 17eg, 11.30am – SIOE NADOLIG

Dydd Gwener Rhagfyr 18fed – Parti Nadolig i’r plant

Rhagfyr 19eg – Diwedd y tymor

 

Edrychwch ar ein gwefan cylchmeithrintyrcymry.org ac ar ein tudalen Facebook am wybodaeth bellach.

Diolch am eich holl gefnogaeth,

Lowri Bunford-Jones

Tŷ’r Cymry CBC

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

w

Connecting to %s

%d bloggers like this:
search previous next tag category expand menu location phone mail time cart zoom edit close